Caws Parmigiano-Reggiano

Caws Parmigiano-Reggiano
Enghraifft o'r canlynoltype of cheese Edit this on Wikidata
MathGrana Cheese Edit this on Wikidata
Deunyddllaeth, calf rennet Edit this on Wikidata
Label brodorolParmigiano Reggiano Edit this on Wikidata
Enw brodorolParmigiano Reggiano Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.parmigianoreggiano.com/en/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darn o gaws Parmesan.
Ardal cynhyrchu caws Parmesan.

Math o gaws o'r Eidal yw caws Parmesan (Eidaleg: Parmigiano; yn fwy penodol, Parmigiano reggiano (Ynganiad Eidaleg: [ˌparmiˈdʒaːno redˈdʒaːno]). Mae'n gaws caled, cryf a ddefnyddir gan amlaf gyda bwydydd pasta. Mae'r enw "Parmesan", sef y Rhanbarth "Parma", yn cael ei ddefnyddio fel term cyffredinol am yr holl amrywiadau lleol; ond erbyn hyn (2017), ni chaniateir ei ddefnyddio wrth farchnata'r caws oherwydd deddfau Ewropeaidd.[1] Fel rheol mae'r caws yn cael ei grafu dros y bwyd.

Prif ardal cynhyrchu caws Parmesan yw rhanbarth Emilia-Romagna yng ngogledd canolbarth yr Eidal. Fe'i henwir ar ôl dinas hynafol Parma yn y rhanbarth honno, ond mae'r ardal cynhyrchu yn ymestyn ar draws Emilia-Romagna.

Cyfeiria ail ran yr enw at Ranbarth Reggiano, neu o leiaf at y tir i'r dwyrain o afon Reno a chaiff hefyd ei gynhyrchu yn rhanbarthau Parma, Modena, Emilia-Romagna a Mantova yn Lombardia. Dim ond cawsiau yn yr ardaloedd hyn gaiff eu galw'n gawsiau Parmigiano-Reggiano a'r cyfieithiad "Parmesan".

  1. Case C-132/05 Commission v Germany Archifwyd 2016-02-21 yn y Peiriant Wayback. European Commission Legal Service, Gorffennaf 2008

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne